<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?>

<udhr iso639-3='cym' xml:lang='cy' key='cym' n='Welsh' dir='ltr' iso15924='Latn' xmlns="http://efele.net/udhr">
   <title>DATGANIAD CYFFREDINOL O HAWLIAU DYNOL</title>
   <preamble>
      <title>Rhagair</title>
      <para>Gan mai cydnabod urddas cynhenid a hawliau cydradd a phriod holl aelodau’r teulu dynol yw sylfaen rhyddid, cyfiawnder a heddwch yn y byd,</para>
      <para>Gan i anwybyddu a dirmygu hawliau dynol arwain at weithredoedd barbaraidd a dreisiodd gydwybod dynolryw, a bod dyfodiad byd lle y gall pob unigolyn fwynhau rhyddid i siarad a chredu a rhyddid rhag ofn ac angau wedi ei gyhoeddi yn ddyhead uchaf y bobl gyffredin,</para>
      <para>Gan fod yn rhaid amddiffyn hawliau dynol a rheolaeth cyfraith, os nad yw pob unigolyn dan orfod yn y pendraw i wrthryfela yn erbyn gormes a thrais,</para>
      <para>Gan fod yn rhaid hyrwyddo cysylltiadau cyfeillgar rhwng Cenhedloedd,</para>
      <para>Gan fod pobloedd y Cenhedloedd Unedig yn y Siarter wedi ail ddatgan ffydd mewn hawliau sylfaenol yr unigolyn, mewn urddas a gwerth y person dynol ac mewn hawliau cydradd</para>
      <para>gwr a gwragedd, ac wedi penderfynu hyrwyddo cynnydd cymdeithasol a safonau byw gwell mewn rhyddid helaethach,</para>
      <para>Gan fod y Gwladwriaethau sy’n Aelodau wedi ymrwymo, mewn cydweithrediad â’r Cenhedloedd Unedig, i sicrhau hyrwyddo parch cyffredinol i hawliau dynol a’r rhyddfreintiau sylfaenol, a’u cadw,</para>
      <para>Gan fod deall yr hawliau a’r rhyddfreintiau hyn gan bawb o’r pwys mwyaf i lwyr sylweddoli’r ymrwymiad hwn,</para>
      <para>Felly, y mae’r</para>
      <para>Cynulliad Cyffredinol</para>
      <para>yn awr yn cyhoeddi’r</para>
      <para>Datganiad Cyffredinol hwn o Hawliau Dynol</para>
      <para>yn ddelfryd cyffredin i’r holl bobloedd a’r holl genhedloedd ymgyrraedd ato, fel y bo i bob person ac i bob offeryn cymdeithasol, gan ddal y Datganiad hwn mewn cof yn wastad, ymdrechu trwy ddysgu a hyfforddi i sicrhau parch i’r hawliau a’r rhyddfreintiau hyn, a thrwy ffyrdd blaengar, cenedlaethol a chydgenedlaethol, i sicrhau eu cydnabod a’u cadw yn gyffredinol ac yn effeithiol, ymysg pobloedd y Gwladwriaethau sy’n Aelodau eu hunain yn ogystal ag ymysg pobloedd y tiriogaethau sydd dan eu rheolaeth.</para>
   </preamble>
   <article number="1">
      <title>Erthygl 1</title>
      <para>Genir pawb yn rhydd ac yn gydradd â’i gilydd mewn urddas a hawliau. Fe’u cynysgaeddir â rheswm a chydwybod, a dylai pawb ymddwyn y naill at y llall mewn ysbryd cymodlon.</para>
   </article>
   <article number="2">
      <title>Erthygl 2</title>
      <para>Y mae gan bawb hawl i’r holl hawliau a’r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn, heb unrhyw wahaniaeth o gwbl, yn arbennig unrhyw wahaniaeth hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn boliticaidd neu unrhyw farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, geni neu safle arall.</para>
      <para>Ymhellach, ni ddylid gwahaniaethu ar sail safle politicaidd, gyfreithiol na chydwladol unrhyw wlad neu diriogaeth y mae pawb yn perthyn iddi, p’un ai yw honno’n annibynnol, dan nawdd, heb hunanlywodraeth, neu dan unrhyw gyfyngiad arall ar ei sofraniaeth.</para>
   </article>
   <article number="3">
      <title>Erthygl 3</title>
      <para>Y mae gan bawb hawl i fywyd, rhyddid a diogelwch.</para>
   </article>
   <article number="4">
      <title>Erthygl 4</title>
      <para>Ni ddylid dal neb yn gaethwas nac mewn caethiwed; dylid gwahardd caethwasiaeth a’r fasnach gaethweision ym mhob un o’u hagweddau.</para>
   </article>
   <article number="5">
      <title>Erthygl 5</title>
      <para>Ni ddylid poenydio neb, na thrin na chosbi neb yn greulon, annynol na’n ddiraddiol.</para>
   </article>
   <article number="6">
      <title>Erthygl 6</title>
      <para>Y mae gan bawb hawl i gael cydnabyddiaeth ym mhobman fel person yng ngydd y gyfraith.</para>
   </article>
   <article number="7">
      <title>Erthygl 7</title>
      <para>Y mae pawb yn gydradd yng ngolwg y gyfraith gyda’r hawl yn ddiwahân i’r un amddiffyniad gan y gyfraith. Y mae gan bawb hawl i’r un amddiffyniad yn erbyn unrhyw wahaniaethu sy’n groes i’r datganiad hwn neu unrhyw anogaeth i wahaniaethu.</para>
   </article>
   <article number="8">
      <title>Erthygl 8</title>
      <para>Y mae gan bawb hawl i ymwared effeithiol gan y llysoedd cenedlaethol cymwys rhag gweithredoedd sy’n troseddu’r hawliau sylfaenol a roddwyd iddynt gan y cyfansoddiad neu gan y gyfraith.</para>
   </article>
   <article number="9">
      <title>Erthygl 9</title>
      <para>Ni ddylai neb gael eu dwyn i ddalfa, na’u caethiwo na’u halltudio yn fympwyol.</para>
   </article>
   <article number="10">
      <title>Erthygl 10</title>
      <para>Y mae gan bawb hawl, mewn cydraddoldeb llawn, i gael gwrandawiad teg a chyhoeddus gan lys annibynnol a diduedd, wrth benderfynu eu hawliau a’u rhwymedigaethau ac unrhyw gyhuddiad troseddol yn eu herbyn.</para>
   </article>
   <article number="11">
      <title>Erthygl 11</title>
      <orderedlist>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb a gyhuddir o drosedd gosbadwy hawl i gael eu hystyried yn ddieuog tan y profir hwynt yn euog yn ôl y gyfraith mewn prawf cyhoeddus lle y byddant wedi cael pob gwarant angenrheidiol at eu hamddiffyniad.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Ni ddylid dyfarnu neb yn euog o drosedd gosbadwy oherwydd unrhyw weithred neu wall nad oedd yn drosedd, yn ôl cyfraith genedlaethol neu ryngwladol, pan gyflawnwyd hi. Ni ddylid ychwaith osod cosb drymach na’r un a oedd yn gymwys ar yr adeg y cyflawnwyd y drosedd gosbadwy.</para>
         </listitem>
      </orderedlist>
   </article>
   <article number="12">
      <title>Erthygl 12</title>
      <para>Ni ddylid ymyrryd yn fympwyol â bywyd preifat neb, na’u teulu, na’u cartref, na’u gohebiaeth, nac ymosod ar eu hanrhydedd na’u henw da. Y mae gan bawb hawl i amddiffyniad gan y gyfraith rhag y fath ymyrraeth ac ymosod.</para>
   </article>
   <article number="13">
      <title>Erthygl 13</title>
      <orderedlist>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb hawl i symud fel y mynnant ac i breswylio lle y mynnant o fewn terfynau’r Wladwriaeth.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb hawl i adael unrhyw wlad, gan gynnwys eu gwlad eu hunain, a hawl i ddychwelyd iddi.</para>
         </listitem>
      </orderedlist>
   </article>
   <article number="14">
      <title>Erthygl 14</title>
      <orderedlist>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb hawl i geisio ac i gael mewn gwledydd eraill noddfa rhag erledigaeth.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Ni ellir hawlio hyn mewn achosion o erledigaeth sy’n gwir ddilyn troseddau anwleidyddol neu weithredoedd croes i amcanion ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig.</para>
         </listitem>
      </orderedlist>
   </article>
   <article number="15">
      <title>Erthygl 15</title>
      <orderedlist>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb hawl i genedligrwydd.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Ni ddylid amddifadu neb yn fympwyol o’u cenedligrwydd na gwrthod iddynt yr hawl i newid eu cenedligrwydd.</para>
         </listitem>
      </orderedlist>
   </article>
   <article number="16">
      <title>Erthygl 16</title>
      <orderedlist>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb mewn oed, yn wryw a benyw, heb unrhyw gyfyngiadau o ran hil, cenedligrwydd na chrefydd, hawl i briodi a sefydlu teulu. Y mae ganddynt hefyd hawliau cyfartal yngln â phriodas, yn ystod priodas ac wrth ei diddymu.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Ni ddylid priodi ond o lwyr fodd y ddau sy’n golygu gwneud hynny.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Y teulu yw uned naturiol a sylfaenol cymdeithas a chanddo’r hawl i amddiffyniad gan gymdeithas a’r Wladwriaeth.</para>
         </listitem>
      </orderedlist>
   </article>
   <article number="17">
      <title>Erthygl 17</title>
      <orderedlist>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb hawl i feddu eiddo unigol yn ogystal â chydag eraill.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Ni ddylid amddifadu neb o’u heiddo yn fympwyol.</para>
         </listitem>
      </orderedlist>
   </article>
   <article number="18">
      <title>Erthygl 18</title>
      <para>Y mae gan bawb hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd; fe gynnwys hyn ryddid iddynt newid eu crefydd neu eu cred, a rhyddid hefyd, naill ai ar eu pen eu hunain neu gydag eraill, yn gyhoeddus neu’n breifat, i amlygu eu crefydd neu ei gred trwy addysgu, arddel, addoli a chadw defodau.</para>
   </article>
   <article number="19">
      <title>Erthygl 19</title>
      <para>Y mae gan bawb ryddid barn a mynegiant; fe gynnwys hyn yr hawl i ryddid barn, heb ymyrraeth gan neb, a rhyddid i geisio, derbyn a chyfrannu gwybodaeth a syniadau trwy unrhyw gyfryngau, heb ystyried ffiniau gwlad.</para>
   </article>
   <article number="20">
      <title>Erthygl 20</title>
      <orderedlist>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb hawl i ryddid ymgynnull a chymdeithasu heddychlon.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Ni ellir gorfodi neb i berthyn i unrhyw gymdeithas.</para>
         </listitem>
      </orderedlist>
   </article>
   <article number="21">
      <title>Erthygl 21</title>
      <orderedlist>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb hawl i gymryd rhan yn llywodraeth eu gwlad, yn uniongyrchol neu drwy gynrychiolwyr wedi eu dewis yn agored.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb hawl gyfartal i wasanaeth cyhoeddus yn eu gwlad.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Ewyllys y bobl fydd sail awdurdod llywodraeth; mynegir yr ewyllys hon drwy etholiadau dilys o bryd i’w gilydd, drwy bleidleisio cyffredinol a chyfartal, a thrwy bleidlais ddirgel neu ddull pleidleisio rhydd tebyg.</para>
         </listitem>
      </orderedlist>
   </article>
   <article number="22">
      <title>Erthygl 22</title>
      <para>Y mae gan bawb, fel aelod o gymdeithas, hawl i ddiogelwch cymdeithasol, i allu mwynhau hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy’n anhepgorol i’w hurddas ac i ddatblygiad rhydd eu personoliaeth, trwy ymdrech genedlaethol a chydweithrediad rhyngwladol ac yn unol â threfniadaeth ac adnoddau pob Gwladwriaeth.</para>
   </article>
   <article number="23">
      <title>Erthygl 23</title>
      <orderedlist>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb hawl i waith, i ddewis eu gyrfa yn rhydd, i amodau gwaith cyfiawn a boddhaol, ac i amddiffyniad rhag diweithdra.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb, yn ddiwahân, hawl i dâl cyfartal am waith cyfartal.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb sy’n gweithio hawl i dâl teg a boddhaol gan sicrhau iddo’u hunain ac i’w teulu fodolaeth deilwng o urddas dynol, ac ychwanegu at hynny, os bydd rhaid, drwy ffyrdd eraill o nawdd cymdeithasol.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb hawl i ffurfio undebau llafur ac i ymuno â hwy i amddiffyn eu buddiannau.</para>
         </listitem>
      </orderedlist>
   </article>
   <article number="24">
      <title>Erthygl 24</title>
      <para>Y mae gan bawb hawl i orffwys a hamdden gan gynnwys cyfyngiad rhesymol ar oriau gwaith, ac i wyliau cyfnodol gyda thâl.</para>
   </article>
   <article number="25">
      <title>Erthygl 25</title>
      <orderedlist>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb hawl i safon byw digonol i’w hiechyd a’u ffyniant eu hunain a’u teulu, gan gynnwys bwyd, dillad, annedd a gofal meddygol ac i wasanaethau cymdeithasol angenrheidiol; a hawl i sicrwydd cynhaliaeth os digwydd diweithdra, afiechyd, anabledd, gweddwdod, henaint neu unrhyw fethiant bywoliaeth arall pan fo’r amgylchiadau tu hwnt i’w rheolaeth.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Y mae gan famolaeth a phlentyndod hawl i ofal a chymorth arbennig. Dylai pob plentyn, p’un ai wedi eu geni o fewn neu du allan i briodas, fwynhau’r un diogelwch cymdeithasol.</para>
         </listitem>
      </orderedlist>
   </article>
   <article number="26">
      <title>Erthygl 26</title>
      <orderedlist>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb hawl i addysg. Dylai addysg fod yn rhydd, o leiaf addysg elfennol a sylfaenol. Dylai addysg elfennol fod yn orfodol. Dylid gwneud addysg dechnegol a phroffesiynol yn agored i bawb, a dylai fod mynediad llawn a chydradd i bawb i addysg uwchradd ar sail teilyngdod.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Dylai addysg amcanu datblygu personoliaeth llawn yr unigolyn a chryfhau parch i hawliau dynol a’r rhyddfreintiau sylfaenol. Dylai hyrwyddo dealltwriaeth, goddefgarwch a chyfeillgarwch ymysg yr holl genhedloedd ac ymysg grwpiau hiliol neu grefyddol, a dylai hefyd hyrwyddo gwaith y Cenhedloedd Unedig dros heddwch.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Gan rieni y mae’r hawl cyntaf i ddewis y math o addysg a roddir i’w plant.</para>
         </listitem>
      </orderedlist>
   </article>
   <article number="27">
      <title>Erthygl 27</title>
      <orderedlist>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb yr hawl i gymryd rhan ym mywyd diwylliannol eu cymdeithas, i fwynhau’r celfyddydau ac i gyfranogi o gynnydd gwyddonol a’i fuddiannau.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb yr hawl i fynnu diogelwch i’r buddiannau moesol a materol sy’n deillio o unrhyw gynnyrch gwyddonol, llenyddol neu artistig y maent yn awdur iddo.</para>
         </listitem>
      </orderedlist>
   </article>
   <article number="28">
      <title>Erthygl 28</title>
      <para>Y mae gan bawb hawl i drefn gymdeithasol a rhyngwladol lle y gellir llawn sylweddoli’r hawliau a’r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn.</para>
   </article>
   <article number="29">
      <title>Erthygl 29</title>
      <orderedlist>
         <listitem>
            <para>Y mae gan bawb eu dyletswyddau i gymdeithas, lle yn unig y mae datblygiad rhydd a llawn eu personoliaeth yn bosibl.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Ni ddylid cyfyngu ar neb, wrth iddynt arfer eu hawliau a’u rhyddfreintiau, ond pan bennir hynny gan gyfraith gyda’r unig amcan o sicrhau cydnabod a pharchu hawliau a rhyddfreintiau pobl eraill, ac i gyfarfod â gofynion cyfiawn moesoldeb, trefn gyhoeddus a ffyniant cyffredinol mewn cymdeithas ddemocrataidd.</para>
         </listitem>
         <listitem>
            <para>Ni ellir arfer yr hawliau a’r rhyddfreintiau hyn mewn unrhyw achos yn groes i amcanion ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig.</para>
         </listitem>
      </orderedlist>
   </article>
   <article number="30">
      <title>Erthygl 30</title>
      <para>Ni ellir dehongli dim yn y Datganiad hwn i olygu bod gan Wladwriaeth, grp neu berson unrhyw hawl i ymroddi i unrhyw weithgarwch neu i gyflawni unrhyw weithred gyda’r bwriad o ddistrywio unrhyw un o’r hawliau a’r rhyddfreintiau a nodir yma.</para>
   </article>
</udhr>
